top of page

Mae rhan fwyaf o'r blogs yma yn cynnwys iaith gref.

Mae rhai yn cynnwys pynciau sensitif.
Search
  • Writer's picturelowri

colli rheolaeth

Updated: Mar 23, 2018


dwi'n ganol cael anxiety attack so plis forgive me os di hwn ddim yn neud llawer o sens.


dwi di bod yn teimlo hwn yn dod drw'r wsos. rwbath bach yn nigglio yn cefn fy mhen, methu consentratio, gor-feddwl am betha sydd ddim yn bwysig neu byth am ddigwydd constantly - dim brec. ma pawb yn gor-feddwl weithia dydi. dyna pam bod pobol fatha "ooh i'm having an anxiety attack" ac "oh i'm depressed"... os fysa t


i yn, fysa ti'n ffocin gwbod met.


o'n i'n gwaith heddiw ac o'n i'n stressed to the max am bron dim rheswm. oddwn i'n gwbod bod hyn yn dod achos dwi'n cael cur pen rhyfedda, dwi'm yn ben ysgafn, ond ma mhen i'n teimlo'n wag - dio ddim yn brifo at all actually just rili anghyfforddus a rhwystredig. r'un pryd ma eczema yn fflerio fyny dros nghroen i gyd a mae o'n rili rili poenus. ma nillad i'n brifo arna fi. ddes i adra a nes i'm hyd yn oed tynnu'n sgidia, es i stret i gwely yn fully dressed a cysgu am dair awr solid. so rwan dwi di deffro yn gandryll efo fi'n hyn achos ma gyno fi ffyc lods o waith erbyn fory.




ma'n chwaer tu ol i fi'n cwcio bacon tu ol i fi ond dwi ddim di byta drw dydd heblaw am strawberry haribo ges i gan un o'r hogia bach yn gwaith - washi. "da chi 'di cael brecwast lowri?" "naddo" "ond da chi he gael cinio chwaith?" "naddo sdi" "cymrwch hwn". ma plant absolwtli werth y byd, a ma nhw'n sylwi lot mwy na da chi'n feddwl chi.


tydi hon yn neud ei bacon bap tu ol fi ddim yn helpu de. rhian, lyf iw and all de, ond ffoc me ti'n neud swn pan ti'n cwcio. dwi'n clwad pob un dim. ma'r extractor fan yn chwythu fatha'r beast from the east, ma'r bacon yn craclio a popio yn y


badell, ma hi wrthi mixio bbq sauce a sos coch efo'i gilydd so mai'n cnocio llwy yn erbyn bowlen wydr fatha hen gloch ysgol, a ma'r shuffle o'r slipars ar hyd y llawr teils yn swnio tha sand paper. ma nghlustia fi bron a plygu mewn i mhen i.


i suppose 'sa mynd i gwely neu bedrwm yn awgrymiad gan lot ohona chi ond dwi'n gwbod os a'i i gwely na'i gysgu. sgen i'm amser i gysgu. cymryd diwrnod off wsos nesa i gael rest odd awgrymiad un o'n mets, a fel arfer fyswn i yn neud


hyna. ond ma wsos nesa ma yn hectic. ma gen i ddau sioe wahanol ymlaen wsos yma, un yn galeri, un yn pontio, a dwi angen chaperonio plant i wylio yr r'un un sioe dwy waith yn theatr fach hefyd. ma'r streic 'ma yn y brifysgolion di gorffen am rwan hefyd yn do, ond dim ond wsos sy' na tan pasg. so faint o waith fydd gynnai i neud gan ddarlithwyr dwi heb weld ers 4 wsos? 5 wsos mewn ambell case achos nes i fethu un diwrnod achos ges i anxiety attack cyn mynd o ty ar gyfer un darlith ar ddydd llun yn dechra chwefror.


ti'n gwbod pan 'sgen ti jyst dim mynadd agor dy geg a fforsho geiria trwodd? fela dwi rwan.


nai deipio fflat out, a tydi hwn ddim yn anxiety attack


lle dwi mewn pel yn gwely yn hyperventalatio a crio a wedyn cal riw fath o spasms - odd mam yn meddwl mod i'n cal seizure un tro, ond na, jyst anxiety fi odd o, LOL. dwi'n ofn os ai i gwely bod neith hwn droi yn un o'r rhei yna. ond dwi'n edrach yn hollol fine o'r tu allan.'sa chi'm yn deud bod na'm byd yn bod heblaw fyswn i ddim yn siarad efo chi. dwi meddwl na "high-functioning anxiety" ma nhw'n galw un felma. mae o bron fel bod yr anxiety fatha "oce da ni mewn public place rwan, os ydan ni am neud hyn, rhaid bod yn broffesiynol".



professional anxiety, da de.


tro cynta i fi fod yn fully aware mod i'n cael anxiety attack oedd cyn dolig, masiwr bod hi'n ddiwedd mis tachwedd. ma mam yn gweithio literally rownd gongol o lle dwi'n cael darlithoedd ym mangor so since bod parcio yn blydi nigh


tmare yna, dwi'n parcio yn maes parcio gwaith hi. oedd gen i ddarlith film criticism am 12, ac o'n i yna mewn da bryd. gerddis i lawr i'r hen goleg lle oedd y ddarlith 'ma a ffendio bod y drws dwi fel arfer yn mynd drwy di cloi. wel fuck me pink. doeddwn i'm yn nabod yr adeilad at all. unwaith yr wsos o'n i yna am awran, doeddwn i ddim yn gwbod sut arall i fynd i fewn. oedd hi'n 5 to 12 a doeddwn i jyst methu gofyn i rhywun sut i fynd fewn, a rhy paranoid i ddilyn llwybr rhywun arall. ddoth hi'n 12:10. o'n i wedi bod yn anymwybodol o'r cychwyn o'r anxiety attack yma a felly'n anymwybodol o faint o amser oedd wedi bod. maraid bod y boi security yn gwylio'r cctv yn creeped out yn jyst gwylio fi'n stario ar yr adeilad am solid chwarter awr.



nes i ffonio mam "ti 'di cael dy ginio eto?" "naddo pam?" "gai ddod ata chdi plis? dwi di methu lecture fi" "am be?" "doeddwn i ddim yn gwbod sut i fynd fewn i'r lle" "eh? ffycin idiyt. tyd yma ta."


es i at mam a ges i ginio efo hi, ond fytis i ddim jyst, nes i yfad capri-sun fi o'n i 'di nol o'r ffrij yn bora tho. "pryd ma darlith nesa chdi?" oedd gynnai viewing o be bynnag ffilm oeddan ni'n son am wsos yna yn pontio am 1:30. "1:30." nes i diseidio dreifio lawr at pontio yn lle cerdded, maraid oedd hi'n bwrw felly ond dwi'm yn cofio ddim llawer o'm byd oedd yn digwydd o flaen 'y'n llygaid i.




nes i ddreifio allan o'r maes parcio a troi i'r dde - am bont borth yn lle am stryd fangor.

o shit, auto-pilot on maraid! dim otch. ma na roundabout yn dod fyny rwan jyst, wrth y cae ffwtbol.


pasio hwna.



wel ma na roundabout arall wrth bont borth so a'i rownd hwna a dod nol mewn i fangor.

ffycing methu hwna hefyd. dwi'n dechra panicio rwan achos fyddai'n hwyr i'r viewing ma rwan. dros y bont. roundabout arall. dos rownd hi, lowri.


oedd o fatha bod 'y nghorff i jyst ddim yn gwrando ar 'y 'mennydd i. tha mod i'n ddau berson gwbwl ar wahan. roundabout garej shell. pasio hi. dwi'n dechra crio rwan, fatha proper crio. dydw i ddim di crio fel hyn ers misoedd.


mynd am llanfair pwll - y ffor fyswn i'n mynd adra, ond man oce cos ma na sliproad i fynd ar bont britannia, ella fyddi di pum munud yn hwyr ond fydd y sinema yn dywyll so man iawn! dos fewn drw'r cefn a welo neb mohono chdi!



nope. pasio'r ffycin sliproad do.


dwi'n stampio'n nhraed ar waelod y car yn beichio crio. ma llgada fi fatha dau wy yn berwi yn fy mhen a dwr chwil-boeth 'y nagra yn llosgi lawr fy mocha. os welodd rhywun fi drw ffenest y car, fysa nhw'n meddwl mod i 'di newydd gael y newyddion gwaetha 'mywyd i.


pam tydw i cau mynd?! mae o fatha out-of-body ex


perience.


deud gwir, mae o'n waeth na hynny. yda chi 'rioed di clwad am sleep paralysis o'r blaen?

lle 'ma rhywun yn ddeffro ond ma nhw'n cal hunllef r'un pryd. ma lot o bobol yn breuddwydio bod na ddiafol neu rwbath yn ista ar ei brest nhw a cau gadael iddyn nhw symud. paralysed.

ond 'y nghorff i ydi'r diafol yma. fi sydd yn dal fy h


yn yn gaeth.


pan nes i gyrraedd adra, es i i'r gegin, taflu ngoriada car ar y bwr a collapsio yn erbyn y dishwasher. odd yn sgwydda fi'n jercio, breichia, dwylo, bysedd. fy mhen i'n dilyn nhw a yn bangio n'erbyn y worktop. coesa yn twitchio. o'n i dal i grio ond crio oherwydd euogrwydd methu darlith a viewing, a crio mewn ofn mod i'm yn gwbod be ffwc odd yn digwydd.


glywis i dad yn cyrradd adra. medrwn i'm ei adael o ngweld i felma. nes i godi yn dawel fatha bod dim wedi digwydd, a mynd a'n hyn i ngwely a cysgu.


nes i ddeffro pedair awr wedyn gan mam yn


agor drws y bedrwm; "oi, sleepy head. dwi di sticio dy de di'n microwave."






457 views

Recent Posts

See All

unigrwydd

bottom of page