top of page

Mae rhan fwyaf o'r blogs yma yn cynnwys iaith gref.

Mae rhai yn cynnwys pynciau sensitif.
Search
  • Writer's picturelowri

'dw i erioed 'di neud blog o'r blaen

**rhybudd: iaith gref**

literally, erioed wedi. tan rwan.


oeddwn i mor fed up ryw ddiwrnod mis chwefror. oddna jyst llwyth o ddwrnoda shit wedi digwydd stret ar ol ei gilydd, feeling sorry for myself a stressio am faint o waith d'on i heb neud (yr usual rili), ac o'n i jyst isio sgrechian ar bawb a deud yn union be odd ar 'y meddwl i, ti 'bo.


ond gen i fwy i ddeud na hynny, a dio'm i gyd yn self-inflicted fel aseiniadau munud ola, gaddo.


eniwe, dechra yn y dechra. 'chydig o gefndir a hanes:


nes i dyfu fyny yn gaerwen ar sir fon, efo mam a dad a'n chwaer fach. rapsgaliwns a ryffians ydi pobol gaerwen medda nhw, ond tydan ni ddim fwy na llai o sgaliwags na pentre' cyffredin arall yng nghymru, onast.

yn ol fideos cartra, o'n i'n difa bach yn licio canu a dawnsio ac actio mewn costiwm balerina efo stethoscop a rycsac. (ia, i gyd r'un pryd) on i'n licio neud straeon fyny ar y spot a ges i job pen hir a hwyrach fel personal-bedtime-story-teller i'r chwaer fach.


yna pan nes i ddechra'n yr ysgol, ath petha rili downhill o ran fi fy hyn achos o'n i'n cal fy mwlio - a ddaru hynna bara tan ddaru'r bwli adael i fynd i'r ysgol uwchradd blwyddyn cyn fi. er nath y bwlio ddim cilio llawar gan erbyn fi fod yn blwyddyn 6 o'n in dew. a ma pobol yn deud "naaa, puppy fat odd o"... na met, o'n i'n dew. dewach na'n cyfoedion eniwe.

gesh i dipyn o traumatic experiences yn r'ysgol acshyli, ond gewch chi glwad heina mewn blog arall.


ysgol uwchradd: lyfio'r pum mlynadd cynta. nes i rili joio deud gwir. mai'n anodd ffendio atgof gwael heblaw ambell un sy'n scarred yn y bren. fatha pan ddaru athrawes PE galw fi'n dew, o flaen 'y rhieni ar noson rieni. blwyddyn saith oni. ast.


haf 2012, o'n i mewn argument efo dad wrth rhoid gazebo i fyny yn rar. "jen, di'r hogan ma angan ffwcin help" medda dad yn ei dempar wrth mam. "dyna dw i 'di bod yn trio ddeutha chi ers talwm ond 'sa neb yn ffycin rhoid o i mi!" gweddais i, dros gaerwen i gyd. pentref y ryffians a rapsgaliwns.


chweched yn rollercoaster. adeg yna dwi'n cofio meddwl "'ocin hel dwi'm yn iawn de".


gap year, blwyddyn gachu yn neud cwrs doeddwn i ddim yn licio yn brifysgol, yna rwan, dwi dal yn brifysgol ond yn neud cwrs dwi'n acshyli enjoio rwan!


eniwe, blwyddyn dwytha oedd y shitshow fwya hyd yn hyn, a tydi blwyddyn yma ddim yn mynd yn ace chwaith deud gwir.

dolig 2016, o'n i'n teimlo tha crap de. honestly, doeddwn i ddim yn malio dim am neb na ddim byd. es i fyny 3 seis dillad, a dwi DAL yn trio cael nol lawr i lle o'n i ond dw i'n ofn nai ddim achos ma merched ochr teulu dad yn tueddu bod reit big-boned de.

doeddwn i ddim isio siarad na gneud efo neb. oni tha "ffwcia pawb, sa neb yn cario amdana fi a dwi ddim amdanyn nhw chwaith" (ond o'n i yn malio go iawn).


ath hi 'mond yn waeth o fana. o'n i'n jibio ar nights out, ddim yn ateb texts, snapchats na fb mails. o'n i'n isolatio fy hyn ond r'un pryd yn panicio bod pobol yn slagio fi off achos hynny.

o'n i'n gneud y bare minimum o waith prifysgol, a hynny dim ond ar y noson cynt achos o'n i'n terrified o fethu ond doeddwn i ddim yn malio digon i neud y gwaith yn gynt. constant internal battle.


ma hyn i gyd yn swnio mor ffocin boring, sori. ond doeddwn i wirioneddol ddim yn meddwl bod ddim byd yn bod efo fi adeg yma. o'n i'n jyst meddwl bo fi'n hogan afiach, rude, diog... jyst hen bitch bach rili. a dyna o'n i'n edrych fel hefyd, i pobol doedd ddim yn rili nabod fi. (which ar y pryd oedd lot o bobol achos o'n i'n cloi fy hyn i mewn mentally)


dw i'n diolch i'r nefoedd am dair ffrind, nath ddeutha fi: "lowri, ti ddim dy hyn. ti angen help."


doedd neb erioed 'di deud hynna i fi o'r blaen. joc oedd, doeddwn i methu cal y gyts i fynd at y doctor.


eniwe, diwedd mis mai - oedd gennai arholiad. dwi'n ffycin shite mewn arholiada. give me gwaith cwrs any day de, ond gofynna wrtha i ista a stydio... na. a dwi'n araf deg yn 'sgwennu, so tydi 'sgwennu 3 traethawd mewn 2 awr ddim yn un da i fi.


o'n i mewn lle cas efo boi o'n i'n gweld ar y pryd a'i ex o. odd na son am i ni gael restraining order yn erbyn hi ac ati. so es i at fy nhiwtor i ac agor 'y nghalon a deud (crio) "yli ma'r exam ma mewn 5 diwrnod a dwi'm hydnod wedi agor llyfr." chwara teg ddaru hi ffonio pennaeth yr adran yn syth a gohirio'r arholiad. (shout out i delyth humphreys, best tiwtor dw i rioed 'di gael)


ond deal oedd mod i'n mynd i doctor hefyd. ugh, FINE.


diwrnod wedyn, ma'r doctor yn rhoi fi ar tabledi anti-depressants ac anti-anxiety, a seinio fi fyny am cownsela i ddelio efo fo.


hold on, medda fi. anxiety? sgen i ddim anxiety. iselder, on i'n dallt. on i'n gwbod ddim jyst bod yn drist odd hynny. ac o'n i wedi ama am flynyddoedd mod i'n diodda ohono fo, ond pawb o'n i'n trio siarad efo, "hormonal teenager" oeddwn i de. growing pains.


odd anxiety yn swnio'n wirion i fi. fatha dwi'n lyfio bod ar lwyfan. nes i lefel A perfformio a drama, sut bo fi efo anxiety? doedd o ddim yn neud sens.


ond yn ol y doctor, y cownselydd, a dau psychiatrist yn hergest ysbyty gwynedd: mi oeddwn i. ac wedi ers peth amser medda nhw. blynyddoedd.


ges i'n hiwmiliatio diwrnod penblwydd fy chwaer yn ddeunaw. turns out doedd rili ddim angen ordor yn erbyn ex y boi 'na, ond restraint yn ei erbyn o. stori arall.


nes i wario 10 diwrnod yn gwely ar ol hynny, a dim ond codi i biso 7 gwaith. es i ddim i gwaith. nes i'm molchi. nes i'm byta (a ma hynny'n strenj ofnadwy i fi!)


nes i golli bron i ddau ston mewn deg diwrnod. 26 pwys mewn 10 diwrnod.


dw i'm yn mynd i ddeud clwydda, I loved that fact de. ond odd o'n afiach.


dyna oedd y pwynt isa' i fi dw i meddwl. dw i 'di cal dark times eraill cyn ac ar ol hynny ond o leia dw i wedi gallu codi o gwely ar ryw bwynt bob dydd wedyn, i neud fwy na jyst piso.



dw i rwan yn berson reit agored. dyna'r rheswm dw i wedi dechra hwn; dw i isio deud 'y hanes i wrth pwy bynnag neith wrando achos es i am gymaint flynyddodd hefo neb.

ac os does na neb yn gwrando, gwna iddyn nhw.


chwedl ag yws gwynedd, mae 'na werth i dy wen.

898 views

Recent Posts

See All

unigrwydd

bottom of page