top of page

Mae rhan fwyaf o'r blogs yma yn cynnwys iaith gref.

Mae rhai yn cynnwys pynciau sensitif.
Search
  • Writer's picturelowri

unigrwydd


so pan ma rhywun yn gofyn wrtha fi “be di dy ofn fwya di?” dwi’n deud: “dwi’n casau fflio, ma heights yn neud traed fi fynd yn ffyni, a dwi’m yn licio anifeiliad heb traed.” a petha fela ma pawb yn ddeud ia, fatha ella bod chi’m efo r’un rhei a fi, ella bod chi’n ofn speidars neu twllwch neu liffts. ond pob hyn a hyn ma’r cwmwl mawr du yn dod drosta fi a ma’n ofn mwya mwya mwya go iawn go iawn fi’n appeario.


tydw i’m yn deud clwydda. dwi’n terrified o fflio (er gwaetha faint o kalms dwi’n lyncu), ma even gwatsiad fideos o uchder yn neud fi cau’n llygaid yn dynn, a geith snêcs ffyc off. ond be dwi wirioneddol ofn ydi unigrwydd.


dwi byth yn cofio mod i’n ofn unigrwydd tan ma’n digwydd. dwi tha “o shit, hyn eto.” fyddai’n ista yn gwely – hollol ben fy hyn mewn ty llawn pobol. nai godi a mynd i weld mam neu dad neu’n chwaer a’i chariad, ond ma pawb yn brysur doing their own thing. ma hynna’n peth arall dwi’n ofn; bod yn annoying a pobol slagio i off. so nai jyst dychwelyd i bedrwm, mynd ar fy ffôn a snapchatio’n ffrindia neu tecstio rhywun ac ista a disgwl. a disgwl. a disgwl. disgwl am amser mor hir ma’r gair “disgwl” yn dechra swnio’n weird.


ma’r ffôn yn goleuo fyny, ma nghalon i’n neidio a dwi’n pigo’r ffôn fyny, dim ond i weld “iPhone hasn’t been backed up for 2 weeks.” ffycin disappointment.


wedyn ma ffôn fi’n buzzio, ma un o’n ffrindia fi’n teipio. yaaaassss. dwi’n mentally prepario pa hoodie dwi mynd i roid efo’r joggers dwi’n lownjo yn i fynd am dro yn car. snapchat notification. dwi’n ei agor o, dim ond i gael ymddiheuriad bod nhw’n brysur a “seen by everyone.”


man iawn hahaha, jyst meddwl ‘swn i’n cynnig 😊 dwi’n gwely’n gwatsiad pengelli ar iplayer eniwe hahaha


plis peidiwch a nghael i’n wrong – dwi’m yn gweld bai o gwbwl. dwi’n hollol dallt os ma rhywun yn gweithio, neu efo’i cariad, neu o bawb dwi yn berson sy’n dallt os da chi just not feeling it ac isho aros mewn de. just deud! dwi’n deall completely. a dwi ddim yn flin na resentful. dwi just yn ofn achos ma’r teimlad drwm ma yn fy chest i yn mynd i barhau.


ma’r text dal yn ista ben ei hyn, bloc glas reit uwchben y keyboard. delivered.

oh, dydw i ddim yn clingi, gaddo dwi ddim. dwi just… dwnim sut i ddisgrifio fo? dwi’n gyrru text i gal atab ia, dim iddo fo ista yna’n remindio fi faint o ffrindia sgenna i ddim.

so dwi’n dechra mynd yn paranoid. tydi nhw ddim yn licio fi dim mwy. fi di’r classic un yn y grŵp yn y ffilms american ma lle ‘sa neb yn actually licio. yr hogan sydd yn cal ei gadal allan genuinely unintentionally achos tydi pobol just ddim yn meddwl invitio hi achos just after-thought ydi hi.


ma mhen i’n mynd dros ben llestri ac yn dychmygu bod nhw gyd efo’i gilydd, “cofia rhoid ghost mode ar snapchat cofn iddi weld”, “paid a rhoid llun na ar instagram!” ma nhw’n slagio fi off i bobol dwi’n nabod, pobol dwi ddim yn nabod, rhieni nhw, ffrindia nhw, cariadon, cyd-weithiwyr. os unrhyw dro dwi miraculously cal sylw hogyn, mae o’n ffwcio hogan delach, talach, teneuach – ac yn chwerthin am ba mor pathetig dwi.

dwi’m yn licio dybl-tecstio. unless ma gen i rwbath i ofyn neu rwbath i ychwanegu. a pan dwi’n gofyn sud wt ti, ges di ddwrnod da - dwi’n gofyn go iawn dim just chwilio am rwbath i ddeud, dwisho gwbod, wir.


does na ddim byd gwaeth na lwmp yn gwddw chdi, nagoes? ti just isho crio ond ti’n teimlo mor ffycin stiwpid yn crio dros rwbath sydd ond yn dy ben di. ta ydi o? yndi mae o. nadi dio ddim. oh ffycin hel dwi’m yn gwbod, ond i fi, yn y foment yna, mae o’n wir. mae o’n gut-wrenchingly gwir a my god ti am fod ben dy hyn am rest o dy fywyd: dim ffrindia, dim partnar, dim plant, dim teulu.


a fyswn i’n deutha rhywun arall fysa’n dod ata fi yn deud r’un peth “paid a bod yn wirion, gen ti ddigon o ffrindia sy’n caru chdi am chdi! ac os di ryw hogyn [neu hogan] ddim yn siarad efo chdi ddim mwy then tydi nhw ddim werth o – ffwcia nhw!” ~ actual geiria dwi di deud wrth rhywun o blaen, copy a pasted o fb messenger ~


geiria hypocritical.


achos dwi yn fy nagra am bod, yn fy mhen, does na neb isho fi.


dwi’n clwad traed yn dod drw’r hall tuag at fy stafell wely a dwi’n panicio. fedrai’m gadael neb ngweld i fel hyn – especially mam neu dad neu’n chwaer a’i chariad. achos be dwi mynd i ddeutha nhw?


“be sy?” … “dwi’n unig.”


tydi pobol ddim yn deud hynna go iawn nadi? mond mewn programs neu ffilms gor-ddramatig neu ar lwyfan. dwi’n teimlo’n gor-ddramatig yn neud blog am unigrwydd.

ond ma’n broblam i fi. hiwj problem. mae o’n debilitating. dwi’n meddwl yn hyn mewn i stâd mor ofnadwy, writio off unrhyw ddyfodol hapus a dwi’n taflu’n hyn mewn i depression arall.

dwi’n clwad drws bedrwm rhywun arall yn gwichian ar agor a cau. dim fi oedda nhw’n dod i weld. dim ond pasio oeddan nhw.


hyd yn oed os fysa nhw yn dod i ngweld i, neu ffrind yn gyrru neges “ti ffansi mynd am ddrinc?” dwi rwan ddim yn y mood i deud na gneud dim byd, a dwi’n hollol knackered. ond rwan dwi’n panicio bod nhw’n slagio fi off am ddifetha noson nhw.


i suppose, efo unigrwydd, fedra neb neud dim am hynny heblaw chdi dy hyn rili. angen newid meddylfryd, ond eto dwnim os na natur fi ydi poeni fela ta dim ond yr anxiety ma dio? ma’n siwr nai byth wbod.


ond ti gwbo be de, ma unigrwydd yn neud i’r amseroedd a’r sgyrsia ti’n gal efo pobol cymaint mwy sbesial. ma’n neud i ti werthfawrogi be sgen ti ‘chydig bach mwy, a ma’r chwerthin a’r gwenu na lot mwy melys.

404 views

Recent Posts

See All
bottom of page